Bywyd arferol…

Dwi di bod yma am mis nawr ac wrth cerdded allan o’r drws yn y bore ma meddyliau fel “oes gen i ddigon o ddwr?” yn mynd trwy fy mhen, ond petawn i dal yn Prydain mi fyddwn i’n meddwl “oes gen i ymbarel?” oherwydd wrth gwrs mae’n mynd i bwrw glaw rhywbryd. Mae bach yn odd pa mor gyflym da chi’n gallu addasu i rhywle newydd. Does dim angen edrych ar y tywydd cyn mynd rhywle, mae’n mynd i fod yn heulog felly rhaid gwisgo shorts a crys T, pacio eli haul a spectbol haul a digonedd o ddwr.

Mae gyrru fan hyn yn wahanol iawn i gyrru yng nghanol Caerdydd. I dechrau, os dan ni’n mynd mewn i’r wadi does dim tarmac am rhan fwyaf o’r ffordd ac ma eistedd ar cefn pick-up yn perffaith arferol. Y problem gyda hyn yw pan ma car yn mynd y ffordd arall a ma mwg enfawr o llwch!

SANYO DIGITAL CAMERA

 

Mae rhan fwyaf o’r mis diwetha wedi bod yn hyfforddiant i pawb yma felly lot o trio allan pob gweithgaredd, cymorth cyntaf ac hyfforddiant “field studies” a “leave no trace”. Hefyd lot o beicio mynydd a cerdded fel ein bod ni’n adnabod y llwybrau gan fod dim mapiau yma na llwybrau cyhoeddus i dilyn, felly rhaid cofio pa ffordd i mynd!

SANYO DIGITAL CAMERA

Os nad ydych yn hoffi gweithgareddau awyr agored, does dim lot i neud yma yn y nos. Mae genym ni teledu i wylio DVDs, ond fel arfer da ni’n dewis mynd snorkelling yn y nos neu gyrru lan i’r wadi i neud bouldering.

SANYO DIGITAL CAMERA

Ddoe ges i diwrnod rhydd felly gyda rhai o fy ffrindiau naethon ni mynd a cwch lan yr arfordir am y dydd a neud rhwybeth o’r enw “deep water soloing”, sef dringo cerrig ar ben y môr. Mae hyn yn golygu os da chi’n cwympo, da chi’n mynd mewn i’r dwr a wedyn dechrau dringo eto!

SANYO DIGITAL CAMERA

 

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s